haneru be

Mae dau ystyr i ‘haneru’:

(1) Rydym yn haneru rhif trwy ei rannu â dau. Er enghraifft, hanner y rhif 18 yw 9:

    18\div2=9

(2) Rydym yn haneru siâp trwy rannu ei hyd, ei arwynebedd neu ei gyfaint yn ddwy ran hafal. Mae hyn yn dibynnu ar ba fath o siâp ydyw.