rhannu byrbe
Dull ysgrifenedig cryno o rannu un rhif gan rif arall yw rhannu byr, yn enwedig os yw’r rhannydd yn un digid.
Beth am ddefnyddio’r sym rannu byr gyferbyn, fel enghraifft?
Nid yw 6 yn rhannu i 1, felly rhaid edrych ar y digid nesaf. Mae hyn yn rhoi 13, ac mae 6 yn rhannu i 13 gan roi 2, gweddill 1. Wedyn, rhaid edrych ar y gweddill 1 gyda’r digid nesaf sy’n rhoi 12. Mae 6 yn rhannu i 12 gan roi 2.
Felly, 132 ÷ 6 = 22.