fformiwla (fformiwlâu) eb
Rhifau a symbolau sy’n dangos sut mae gweithio rhywbeth allan yw fformiwla. Mae’n dangos y berthynas rhwng dau newidyn neu fwy.
Yn aml, mae fformiwla yn cael ei hysgrifennu fel bod un newidyn ar yr ochr chwith ac mae’r ffordd o gyfrifo’r newidyn hwnnw yn cael ei dangos ar yr ochr dde.
Mae’r fformiwla ar gyfer cyfrifo arwynebedd A cylch o wybod radiws r y cylch yn enghraifft: