cydberthyniad (cydberthyniadau) eg
Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r berthynas rhwng dau newidyn mewn set o ddata.
Mae gwahanol fathau o gydberthyniad:
-
Cydberthyniad positif sy’n golygu wrth i un maint gynyddu, mae maint arall yn cynyddu hefyd. Mae’r graff cyntaf cyferbyn yn enghraifft o hyn.
Gallwn weld wrth i’r tymheredd godi, mae nifer yr hufen iâ sy’n cael ei werthu yn cynyddu hefyd.
-
Cydberthyniad negatif sy’n golygu wrth i un maint gynyddu, mae maint arall yn gostwng. Mae’r ail graff cyferbyn yn enghraifft o hyn.
Gallwn weld wrth i nifer yr wythnosau gynyddu, mae gwerthiant y gân ar iTunes yn gostwng.
Pan mae’r pwyntiau‘n agos mewn llinell syth, mae’n awgrymu perthynas agos. Rydym yn dweud bod y cydberthyniad yn uchel neu’n gryf.
Pan mae’r pwyntiau’n fwy gwasgaredig, mae’n awgrymu perthynas sydd ddim mor agos. Rydym yn dweud bod y cydberthyniad yn isel neu’n wan.