pŵer (pwerau) eg

Mae pŵer rhif yn dweud wrthon ni sawl gwaith i luosi’r rhif hwnnw ag ef ei hun.

Mae’n cael ei ysgrifennu fel rhif bach i’r dde o’r bôn ac yn uwch nag ef.

Er enghraifft, rydym yn ysgrifennu ail bŵer 10 fel 102, sef 10 × 10 = 100. Rydym yn dweud 102 fel ’10 i’r pŵer 2′.

Gallwn barhau â’r patrwm hwn, er enghraifft trydydd pŵer 10 sy’n cael ei ysgrifennu fel 103, sef 10 × 10 × 10 = 1000.

Mae pwerau rhifau eraill yn cael eu diffinio yn yr un ffordd. Er enghraifft pwerau 2:

    22, sef 2 × 2 = 4
    23, sef 2 × 2 × 2 = 8
    24, sef 2 × 2 × 2 × 2 = 16

Gall pŵer hefyd fod yn ffracsiynol. Mae pŵer ffracsiynol yn cynrychioli isradd:

     x^\frac{1}{2}=\sqrt{x}

Er enghraifft, byddai 9^\frac{1}{2} = \sqrt{9} = \textmd 3.

Gall pŵer hefyd fod yn negatif. Mae pŵer negatif yn cynrychioli cilydd:

     x^{-1}=\dfrac{1}{x}

Er enghraifft, byddai 2-1 = \dfrac{1}{2}.

Mae unrhyw rif neu newidyn i’r pŵer 0 yn hafal i 1:

     x^{0}={1}

Er enghraifft, byddai 50 = 1.