gwrthdro (gwrthdroeon) eg
Ystyr gwrthdro yw troi rhywbeth yn ôl i’r gwrthwyneb.
Gallwn feddwl am hyn yng nghyd-destun gweithrediadau mathemategol.
Er enghraifft, 5 + 6 = 11.
Gallwn wrthdroi hyn trwy dynnu:
-
11 – 6 = 5
Felly, 5 + 6 – 6 = 5.
Er enghraifft, 6 × 10 = 60.
Gallwn wrthdroi hyn trwy rannu:
-
60 ÷ 10 = 6
Felly, 6 × 10 ÷ 10 = 6.
Mae gwrthdro hefyd yn ymwneud â thrawsfudo siapiau. Mae’n symud siâp yn ôl i’w leoliad gwreiddiol.
Edrychwch ar y llun.
Mae triongl A yn cael ei drawsfudo tair uned i’r dde a dwy uned i lawr er mwyn ei symud i leoliad triongl B. Y gwrthdro er mwyn symud triongl B yn ôl i’w leoliad gwreiddiol, sef triongl A, yw tair uned i’r chwith a dwy uned i fyny.