trydydd isradd (trydydd israddau) eg
Arwydd: ∛
Pan mae rhif yn cael ei luosi â’i hun ddwywaith, y rhif hwnnw yw trydydd isradd yr ateb.
Er enghraifft:
23 = 2 × 2 × 2 = 8, felly trydydd isradd 8 yw 2.
Rydym yn defnyddio’r arwydd ∛ i ysgrifennu trydydd isradd.
Er enghraifft:
∛8 = 2