unfathiant (unfathiannau)eg
Mae unfathiant yn dangos bod gwerth newidynnau perthnasol mewn dau fynegiad yn hafal i’w gilydd.
Y symbol am unfathiant yw ≡. Sylwch ei fod yn defnyddio tair llinell lorweddol, nid dwy fel sydd gan hafalnod.
Mae 2x + 3x ≡ 5x yn enghraifft o unfathiant.