tynnu ailadroddol be

Dyma’r broses o dynnu’r un rhif neu swm dro ar ôl tro.

Mae tynnu ailadroddol yn debyg iawn i rannu. Mae’r rhannydd yn cael ei dynnu drosodd a throsodd o’r rhannyn.

Meddyliwch am y rhif 35 fel rhannyn, a’r rhif 5 fel rhannydd.

Wrth ddefnyddio’r broses tynnu ailadroddol i rannu 35 â 5, mae 5 yn cael ei dynnu drosodd a throsodd o 35 tan nad oes unrhyw beth ar ôl.

Mae 5 yn gallu cael ei dynnu o 35 saith gwaith, felly 35 ÷ 5 = 7.