tabl dwyffordd eg

Weithiau wrth gasglu data, rydym yn ystyried mwy nag un ffactor ar yr un pryd. Mae tabl dwyffordd yn ddull o ddangos y math hwn o ddata.

Er enghraifft, mae Mike yn cynnal arolwg ar geir mewn maes parcio.

Ar gyfer pob car, mae’n cofnodi’r lliw ac ym mhle y cafodd y car ei wneud. Mae Mike yn dangos y ddau ffactor hyn mewn tabl dwyffordd, fel sydd i’w weld gyferbyn.