trigonometreg eb

Mae trigonometreg yn ymwneud â thrionglau a’r berthynas rhwng hyd eu hochrau a maint eu honglau.

Mae gan driongl ongl sgwâr dair cymhareb rhwng hyd yr ochrau:

    sin (sine) = cyferbyn ÷ hypotenws

    cos (cosine) = agos ÷ hypotenws

    tan (tangiad) = cyferbyn ÷ agos

Yn syml, maen nhw’n rhannu un o ochrau triongl ongl sgwâr ag un o ochrau eraill triongl ongl sgwâr i roi cymhareb rhwng y ddwy ochr.

Mae’n bosibl defnyddio’r rheol sin a’r rheol cosin i ddarganfod hyd ochr neu faint ongl mewn unrhyw driongl.