graff cyflymder-amser (graffiau cyflymder-amser) eg
Math o graff teithio yw graff cyflymder-amser. Mae’n dangos gwybodaeth am gyflymder teithio gwrthrych a’r amser mae’n ei gymryd.
Mae’r cyflymder yn cael ei blotio ar yr echelin-y ac mae’r amser yn cael ei blotio ar yr echelin-x.
Mae graddiant graff o’r math hwn ar amser penodol yn dangos y cyflymiad ar yr amser hwnnw.
Mae’r arwynebedd dan graff cyflymder-amser yn dangos y pellter a deithiwyd mewn cyfnod o amser penodol.