degolyn cylchol (degolion cylchol) eg

Ffracsiwn degol sydd â nifer anfeidrol o ddigidau yw degolyn cylchol.

Mae \dfrac13 yn enghraifft o hyn, gan fod \dfrac13 = 0.33333…

Gallwn weld bod y rhif 3 yn parhau’n ddiddiwedd. Mae hyn yn cael ei ddangos trwy roi dot dros y digid sy’n ailadrodd, fel hyn:

    \text0. {\dot3}

Enghraifft arall yw \dfrac17, gan fod \dfrac17 = 0.142857142…

Yn yr enghraifft hon, mae bloc o rifau, sef 142857, yn ailadrodd yn ddiddiwedd. Pan mae hyn yn digwydd, mae dot yn cael ei roi dros y digid cyntaf a’r digid olaf yn y bloc sy’n ailadrodd, fel hyn:

    \text0. {\dot1}\text{4285}{\dot7}

Y gwrthwyneb i ddegolyn cylchol yw degolyn terfynus.