arwahanol ans

Os yw set o ddata yn arwahanol, dim ond rhifau penodol sy’n gallu ymddangos yn y set honno.

Mae nifer y myfyrwyr mewn dosbarth yn enghraifft o ddata arwahanol oherwydd nid yw’n bosibl cael hanner myfyriwr.

Felly, data sy’n ganlyniad i gyfrif pethau yw data arwahanol.

Mae maint esgidiau a maint dillad yn enghreifftiau hefyd.

Y gwrthwyneb i arwahanol yw di-dor.