Dyddlinell eb

Mae’r Ddyddlinell yn llinell ddychmygol sy’n mynd o begwn y gogledd i begwn y de. Ei phwrpas yw dangos pryd mae diwrnod yn newid o un dydd i’r nesaf.

Mae’n pasio drwy’r Cefnfor Tawel gan wyro i osgoi croesi gwledydd ac ynysoedd gwahanol.

Wrth deithio i’r Gorllewin trwy’r Ddyddlinell mae’n rhaid adio 24 awr at y cloc. Mae hyn yn golygu symud ymlaen un diwrnod cyfan.

Wrth deithio i’r Dwyrain trwy’r Ddyddlinell, mae’n rhaid tynnu 24 awr oddi ar y cloc. Mae hyn yn golygu symud yn ôl un diwrnod cyfan.