elw eg

Mae ‘elw’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun ariannol. Yr elw yw’r gwahaniaeth positif rhwng y pris gwerthu a’r pris prynu.

Er enghraifft, mae Jac yn prynu tŷ am £185 000 ac yn ei werthu am £195 000. Mae’r pris gwerthu £10 000 yn fwy na’r pris prynu. Mae hyn yn golygu bod Jac wedi gwneud elw o £10 000.