CAMO

Mae CAMO yn acronym ar gyfer ehangu pâr o gromfachau yn y ffurf (a + b)(c + d). Mae’n sefyll am ‘Cyntaf Allanol Mewnol Olaf’.

Defnyddiwch CAMO i wneud yn siŵr eich bod yn lluosi pob term sydd yn yr ail bâr o gromfachau â phob term sydd yn y pâr cyntaf o gromfachau.

Cyntaf – lluoswch derm cyntaf y pâr cyntaf o gromfachau â therm cyntaf yr ail bâr o gromfachau er mwyn cael gwerth ac.

Allanol – lluoswch y term sydd ar ochr allanol y pâr cyntaf o gromfachau â’r term sydd ar ochr allanol yr ail bâr o gromfachau er mwyn cael gwerth ad.

Mewnol – lluoswch y term sydd ar ochr fewnol y pâr cyntaf o gromfachau â’r term sydd ar ochr fewnol yr ail bâr o gromfachau er mwyn cael gwerth bc.

Olaf – lluoswch derm olaf y pâr cyntaf o gromfachau â therm olaf yr ail bâr o gromfachau er mwyn cael gwerth bd.

Felly, (a + b)(c + d) = ac + ad + bc + bd