cyfateb be
Os yw dau wrthrych yn rhannu’r un nodweddion ond yn ymddangos mewn dwy sefyllfa wahanol, maen nhw’n cyfateb.
Er enghraifft, edrychwch ar y ddau driongl yn y diagram. Ar yr olwg gyntaf, maen nhw’n edrych yn wahanol oherwydd bod un yn fwy na’r llall. Fodd bynnag, mae’r trionglau’n gyflun ac felly mae’r onglau’n cyfateb i’w gilydd:
-
• mae ongl A yn cyfateb i ongl D
• mae ongl B yn cyfateb i ongl E
• mae ongl C yn cyfateb i ongl F.