graff gwasgariad (graffiau gwasgariad) eg

Mae’r math hwn o graff yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod a oes perthynas rhwng y newidynnau mewn set o ddata.

Mae’r data yn cael eu cyflwyno fel parau o werthoedd, ac mae pob un o’r parau yn cael ei blotio ar graff fel cyfesurynnau.

Os oes perthynas rhwng y ddwy set, mae’r pwyntiau yn tueddu i orwedd ar linell syth.

Gallwn ddefnyddio’r canlynol fel enghraifft.

Mae taldra a phwysau grŵp o bobl yn cael eu mesur, ac mae’r data’n cael eu plotio ar graff. Mae pob pwynt ar y diagram yn cynrychioli pwysau un person yn erbyn ei daldra.

Enw arall ar graff gwasgariad yw diagram gwasgariad.