adlewyrchiad (adlewyrchiadau)eg

Wrth edrych ar wrthrych mewn drych, yr hyn rydym yn ei weld yw adlewyrchiad. Mae’r gwrthrych a’r adlewyrchiad yn gyfath.

Yn ogystal ag edrych mewn drych gallwn weld adlewyrchiad mewn mannau eraill hefyd. Er enghraifft, mewn gwydr neu mewn llyn.