patrwm (patrymau) eg

Wrth geisio dod o hyd i batrwm, rydym yn edrych am rywbeth sy’n ailadrodd, neu’n edrych am reol sy’n dweud wrthon ni sut i barhau â’r patrwm.

Er enghraifft, mae’r rhifau 3, 8, 13, 18, 23 ac yn y blaen yn dilyn patrwm. Y rheol yw dechrau ar rif 3 ac yna adio 5 bob tro.

Mae brithwaith yn enghraifft o batrwm sy’n cael ei wneud â siapiau gwahanol. Er enghraifft, y llun hwn.