delwedd (delweddau)eb
-
Mae dau ystyr i’r enw ‘delwedd’:
(1) Dyma’r term am leoliad siâp ar ôl defnyddio trawsffurfiad neu gyfuniad o drawsffurfiadau.
Er enghraifft, yn y llun cyferbyn, R yw delwedd y triongl T ar ôl iddo gael ei adlewyrchu yn y llinell x = –2.
(2) Allbwn ffwythiant ar gyfer mewnbwn penodol, neu ar gyfer parth penodol.