sym (symiau) eb
Problem mewn rhifyddeg yw sym.
Mae’n gallu cynnwys un o’r pedair rheol, neu gyfuniad ohonyn nhw.
Er enghraifft:
• mae 21 + 14 + 10 = 45 yn sym adio
• mae 24 – 9 = 15 yn sym dynnu
• mae 14 × 3 = 42 yn sym luosi
• mae 32 ÷ 4 = 8 yn sym rannu.