swrd (syrdiau) eg
Dyma’r term am rif anghymarebol wedi’i fynegi ar ffurf isradd.
Os nad yw’n bosibl symleiddio rhif i ddileu ail isradd neu drydydd isradd, yna swrd yw’r rhif.
Er enghraifft, nid yw’n bosibl symleiddio √2 (ail isradd 2) felly mae’n swrd.
Mae’n bosibl symleiddio √4 (ail isradd 4) i 2, felly nid yw’n swrd.