ffactor cyffredin mwyaf eg
Dyma’r enw ar y rhif mwyaf sy’n rhannu yn union i ddau neu ragor o rifau eraill.
Er enghraifft:
-
• Ffactorau 16 yw 1, 2, 4, 8 ac 16
• Ffactorau 24 yw 1, 2, 3, 4, 6, 8, 12 a 24
• Ffactorau 56 yw 1, 2, 4, 7, 8, 14, 28 a 56.
Wrth edrych ar y ffactorau hyn, gallwn weld mai 1, 2, 4 ac 8 yw ffactorau cyffredin 16, 24 a 56. Felly, y ffactor cyffredin mwyaf yw 8.
Mae’r acronym FfCM weithiau’n cael ei ddefnyddio.