diagram Carroll eg
Dyma’r enw ar ddiagram sy’n cael ei ddefnyddio i ddidoli data gan ddilyn rheolau neu amodau penodol.
Mae enghraifft o ddiagram Carroll gyferbyn. Mae’r rhifau wedi’u didoli yn dibynnu a ydyn nhw’n eilrifau neu’n rhifau cysefin.
Mae’n ffordd hwylus o ddangos gwybodaeth, gan fod y wybodaeth yn cael ei gosod mewn categorïau.
Mae wedi ei enwi ar ôl yr awdur a’r mathemategydd Lewis Carroll.