diagram amlder cronnus (diagramau amlder cronnus) eg

Graff yw diagram amlder cronnus sy’n cael ei ddefnyddio i ddarganfod amcangyfrif o’r canolrif, y chwartel isaf a’r chwartel uchaf mewn data wedi’u grwpio.

Mae’r amlder cronnus yn cael ei blotio, ac yna mae’r holl bwyntiau yn cael eu huno gan linell syth neu gromlin ddi-dor.

Mae’r isod yn enghraifft.

Unwaith yr wythnos, mae perchennog siop anifeiliad anwes yn pwyso’r 80 llygoden sydd ar werth. Mae’r tabl yn dangos eu pwysau.

Ystyr cronnus yw adio, felly mae angen cyfanswm rhedeg o’r amlder ar ddiagram amlder cronnus. Mae hyn i’w weld yn y tabl hefyd, yn y golofn ‘Amlder cronnus’.

Gallwn nawr blotio’r amlder cronnus ar y graff. Rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn defnyddio pen uchaf y dosbarth i blotio’r pwyntiau. Hynny yw, diwedd pob cyfwng dosbarth. Rhaid gwneud hyn oherwydd nid ydym yn siŵr ble yn y cyfwng dosbarth, er enghraifft 0 < p ≤ 10, mae’r gwerthoedd. Ond, rydym yn gwybod y bydd 3 darn o ddata erbyn diwedd y cyfwng dosbarth.

Gallwn weld bod 62 llygoden yn pwyso 70 g neu lai.