hemisffer (hemisfferau) eg
Siâp tri dimensiwn sy’n union hanner sffêr cyfan yw hemisffer. Nid oes ganddo fertigau ond mae ganddo un ochr a dau wyneb, sef un wyneb siâp cylch ac un wyneb crwm.
Mae pob pwynt ar arwyneb crwm yr hemisffer yn gytbell o ganol y sffêr, sef canol yr wyneb siâp cylch.
Y fformiwla ar gyfer cyfaint hemisffer yw:
Mae r yn cynrychioli radiws hemisffer, sef y pellter o ganol yr wyneb siâp cylch i unrhyw bwynt ar arwyneb crwm yr hemisffer.
Y fformiwla ar gyfer arwynebedd arwyneb hemisffer yw:
Mae’r cyhydedd yn rhannu’r Ddaear yn ddau hemisffer – Hemisffer y Gogledd a Hemisffer y De.