sffêr (sfferau)eb

Siâp tri dimensiwn sydd ag wyneb crwn yw sffêr. Nid oes ganddi fertigau nac ochrau. Mae pob pwynt ar arwyneb y sffêr yn gytbell o ganol y sffêr.

Y fformiwla ar gyfer cyfaint sffêr yw:

\text {Cyfaint} = \dfrac{\text{4}} {\text{3}} \times \pi \times {r^{3}}

               = \dfrac{\text{4}}{\text{3}}\pi {r^{3}}

Mae r yn cynrychioli radiws sffêr, sef y pellter o ganol y sffêr i unrhyw bwynt ar arwyneb y sffêr.

Y fformiwla ar gyfer arwynebedd arwyneb sffêr yw:

\textmd {Arwynebedd Arwyneb} = \textmd {4}\times\pi\times {r^{2}}
                                          = \textmd {4}\pi {r^{2}}

Mae peli snwcer yn enghreifftiau o sfferau cyfath.