cynrychioli be

Rydym yn dweud bod data sy’n cael eu harddangos ar ffurf tabl neu graff yn cael eu cynrychioli.

Mae newidynnau yn gallu cael eu cynrychioli gan lythrennau mewn hafaliadau. Er enghraifft, yn yr hafaliad y = 3x + 6, mae’r llythrennau x ac y yn cynrychioli’r newidynnau.