cyfeiriant (cyfeiriannau)eg Ongl sy’n cael ei mesur mewn graddau yw cyfeiriant. Mae’n cael ei mesur o’r gogledd mewn cyfeiriad clocwedd. Mae cyfeiriant yn defnyddio 3 ffigur bob tro. Felly, mae ongl 14° yn cael ei hysgrifennu fel cyfeiriant 014°.