casglu termau tebyg be

Mewn algebra, mae casglu termau tebyg yn broses lle rydym yn symleiddio mynegiad algebraidd. Rydym yn gwneud hyn drwy gasglu termau tebyg at ei gilydd.

Er enghraifft, mae termau tebyg yn y mynegiad 4x + 2 + 2x + 7. Gallwn gasglu’r termau x at ei gilydd i gael 6x, a chasglu’r rhifau at ei gilydd i gael 9.

Felly, ar ôl casglu’r termau gallwn weld mai 6x + 9 yw’r mynegiad wedi ei symleiddio.