grŵp (grwpiau) eg
Dyma’r enw ar gasgliad o rifau neu wrthrychau sydd â phriodweddau cyffredin.
Er enghraifft, 1, 2, 3, 4 yw’r grŵp o rifau sy’n llai na 5.
Gallwn hefyd feddwl am grŵp fel set wedi’i chyfuno â gweithrediad. Er enghraifft, grŵp o gyfanrifau ac adio.