rhagdybiaeth (rhagdybiaethau)eb

Mae rhagdybiaeth yn ddatganiad sy’n cael ei gynnig ar sail ychydig neu ddim tystiolaeth. Yn aml, dyma fan cychwyn ymholiad neu ymchwiliad.

Fel arfer, mae’n bosibl profi a yw rhagdybiaeth yn wir ai peidio.

Er enghraifft, mae rhagdybiaeth bod cŵn mawr yn well am ddal pêl yn mynd i gael ei phrofi gan ddefnyddio cannoedd o gŵn o feintiau gwahanol.

Weithiau, nid yw rhagdybiaeth yn cael ei phrofi. Esboniad da yw yn unig ac fe allai’r eglurhad hwnnw fod yn anghywir.