tymor (tymhorau)eg
Mae blwyddyn yn cael ei rhannu yn bedwar tymor:
-
• gaeaf
• gwanwyn
• haf
• hydref.
Mae hyn yn digwydd oherwydd y ffordd y mae’r Ddaear yn troi o amgylch yr Haul. Yn ystod y flwyddyn mae gogwydd y Ddaear tuag at yr Haul yn newid.
Yn yr haf, mae Hemisffer y Gogledd wedi’i ogwyddo tuag at yr Haul. Dyna pam mae mwy o olau dydd yn yr haf.
Yn y gaeaf, mae Hemisffer y Gogledd wedi’i ogwyddo oddi wrth yr Haul. Dyna pam mae llai o olau dydd yn y gaeaf.