cysylltiadol ans

Deddf yw hon sy’n ymwneud â gweithredyddion mathemategol sy’n rhoi’r un ateb.

Gallwn grwpio rhifau mewn gwahanol ffyrdd, ond mae’r ateb yr un peth bob tro.

Mae adio a lluosi rhifau yn gysylltiadol.

Er enghraifft:

    \text {1 + (2 + 3) = (1 + 2) + 3}

    \text {2 + (4 x 3) = (2 x 4) x 3}

Mae’r atebion i’r uchod yr un peth.

Nid yw tynnu a rhannu rhifau yn gysylltiadol.

Er enghraifft:

    \text {1 - (2 - 3)} \neq \text{(1 - 2) - 3}

    \text {1 }\div \text{ (2 } \div \text{ 3) }\neq \text{ (1} \div \text{ 2)} \div \text{ 3}

Nid yw’r atebion i’r uchod yr un peth, felly mae’r arwydd ≠ yn cael ei ddefnyddio i ddangos hyn.