odrif (odrifau) eg

Dyma’r term am gyfanrif sydd â gweddill 1 ar ôl ei rannu â 2. Hynny yw, nid yw’n bosibl ei haneru yn union.

Mae 1, 3, 5, 7, 9, 11, 13 ac yn y blaen yn odrifau.

Y gwahaniaeth rhwng pob odrif yw 2 bob tro, ac mae pob un yn gorffen ag 1, 3, 5, 7 neu 9.

Felly, mae 4627 yn odrif oherwydd ei fod yn gorffen â 7.

Y gwrthwyneb i odrif yw eilrif.