tymheredd (tymhereddau)eg Mae tymheredd yn mesur pa mor oer neu pa mor boeth yw rhywbeth. Gallwn ei fesur gan ddefnyddio’r unedau hyn: • Celsius (°C) • Fahrenheit (°F) • Kelvin (K). Fel arfer, rydym yn defnyddio thermomedr i fesur tymheredd.