chwartel (chwartelau) eg
Pan mae data meintiol yn cael eu rhestru mewn trefn esgynnol, mae’n bosibl rhannu’r data yn bedair rhan gyfartal. Yr enw ar bob rhan yw chwartel.
Gadewch i ni ddefnyddio’r rhifau 5, 6, 8, 2, 5, 7, 6 fel enghraifft.
Y rhifau hyn mewn trefn esgynnol yw:
-
2, 5, 5, 6, 6, 7, 8
O’u rhannu yn bedair rhan gyfartal, rydym yn cael tri chwartel.
Felly, y canlyniad yw:
-
Chwartel isaf (Ch1) = 5
Chwartel canol (Ch2) = 6
Chwartel uchaf (Ch3) = 7