ffactor graddfa (ffactorau graddfa) eb
Dyma’r term am y rhif sy’n pennu maint helaethiad.
Er enghraifft, os 3 yw’r ffactor graddfa, bydd yr helaethiad dair gwaith yn fwy na’r siâp gwreiddiol.
Os yw’r ffactor graddfa rhwng 0 ac 1, bydd yr helaethiad yn llai na’r siâp gwreiddiol.
Os yw’r ffactor graddfa yn negatif, bydd yr helaethiad yn ymddangos ar ochr arall canol yr helaethiad. Bydd y siâp newydd wyneb i waered.