cloc 12 awr eg

Mae’r cloc 12 awr yn defnyddio a.m. i ysgrifennu amser rhwng canol nos a chanol dydd. Er enghraifft, 8:43 a.m. Mae p.m. yn cael ei ddefnyddio i ysgrifennu amser rhwng canol dydd a chanol nos. Er enghraifft, 8:21 p.m.

Yr amser am ganol nos yw 12:00 a.m.

Yr amser am ganol dydd yw 12:00 p.m.

Yn y Gymraeg rydym weithiau yn defnyddio y.b. (y bore) yn lle a.m., ac yn defnyddio y.p. (y prynhawn) neu y.h. (yr hwyr) yn lle p.m.