degolyn (degolion) eg
Dyma’r enw ar y rhan ffracsiynol, sef degfed, canfed, milfed ac yn y blaen, ar ôl pwynt degol.
Er enghraifft, yn y rhif 32.5 y degolyn yw 5 – dyma’r digid sy’n dilyn y pwynt degol.
Mae dau fath gwahanol o ddegolyn:
-
(1) degolyn terfynus
(2) degolyn cylchol.