ar hap ans

Mae ‘ar hap’ yn disgrifio rhywbeth sy’n digwydd heb iddo ddilyn unrhyw drefn. Nid yw’n bosibl ei ragfynegi ac mae’n digwydd drwy siawns. Wedi dweud hynny, mae rhywfaint o strwythur i’r hyn sy’n digwydd.

Er enghraifft, gall y rhifau fod o fewn amrediad penodol. Mae dau ddis yn enghraifft o hyn. Bydd taflu’r ddau ddis yn rhoi cyfanswm rhwng 2 ac 12 bob tro, ond bydd y canlyniadau ar hap.