ongl allanol (onglau allanol)eb

Dyma’r enw ar yr ongl y tu allan i fertig polygon.

Mae ongl allanol yn cael ei ffurfio drwy estyn un o ochrau’r polygon. Ar ôl gwneud hyn, mae ongl rhwng yr ochr estynedig a’r ochr gyfagos. Hon yw’r ongl allanol.

Mae’r llun cyferbyn yn dangos ongl allanol pentagon.

Mae cyfanswm ongl allanol ac ongl fewnol gyfagos yn 180° bob tro.