problem gildro (problemau cildro)eb

Problem lle mae’n rhaid mynd yn ôl at y gwerth gwreiddiol yw problem gildro.

Er enghraifft, os yw hyd sgwâr yn 6 cm, gallwn gyfrifo arwynebedd y sgwâr fel 6 × 6 = 36 cm². Y broblem gildro yn yr achos hwn fyddai cyfrifo hyd y sgwâr o wybod bod ei arwynebedd yn 36 cm². Byddai rhaid cyfrifo ail isradd 36 i ddarganfod yr hyd gwreiddiol, sef 6 cm.