rhif naturiol (rhifau naturiol) eg
Dyma’r enw ar y rhifau cyfan o 1 i fyny: 1, 2, 3, 4 ac yn y blaen.
Nid yw rhifau naturiol yn cynnwys rhifau negatif na ffracsiynau.
Mae 0 yn cael ei ystyried fel rhif naturiol mewn ambell faes mathemategol.
Mae set o rifau naturiol fel arfer yn cael ei dynodi gan Ν mewn un o ddwy ffordd:
-
N = 1, 2, 3, 4, …
neu
-
N = 0, 1, 2, 3, …