cynnydd canrannol eg

Gwneud rhywbeth yn fwy gan ganran benodol yw cynnydd canrannol.

Mae’n cael ei gyfrifo trwy gyfrifo’r cynnydd yn gyntaf. Yna, mae’r cynnydd hwn yn cael ei adio at y swm gwreiddiol.

Er enghraifft, cyflog Semi yw £12 000 y flwyddyn.

Mae’n cael codiad cyflog o 10%.

Felly, 10% o £12 000 = £1200.

Cyflog newydd Semi yw £12 000 + £1200 = £13 200.

Y gwrthwyneb i gynnydd canrannol yw gostyngiad canrannol.