petryal (petryalau) eg
Mae petryal yn bedrochr sydd â dau bâr o ochrau hafal a phedair ongl sgwâr.
Mae gan betryal ddwy linell cymesuredd.
Y fformiwla ar gyfer arwynebedd petryal yw:
- Arwynebedd = Hyd× Lled
Mae hyd a lled yn cyfeirio at hyd ochrau gwahanol y petryal.