dwysedd amlder eg

Mewn histogram mae arwynebedd pob bar yn cynrychioli amlder. Mae hyn yn golygu bod amlder grwpiau sydd â’u lled yn anhafal yn cael eu cynrychioli’n deg.

Mae’r tabl cyntaf yn dangos taldra plant mewn dosbarth.

Er mwyn cofnodi’r wybodaeth ar ffurf histogram, rhaid darganfod lled pob grŵp a’r dwysedd amlder yn gyntaf. Rydym yn defnyddio’r fformiwla ganlynol i gyfrifo’r dwysedd amlder:

    \text {Dwysedd amlder} = \dfrac {\text{amlder}}{\text{lled y gr\^{w}p}}

Mae’r ail dabl yn dangos y wybodaeth ychwanegol a’r canlyniadau.

Nawr, gallwn luniadu’r histogram.