triongl (trionglau) eg

Polygon sydd â thri fertig a thair ochr yw triongl.

Mae gwahanol fathau o drionglau:

    hafalochrog

    isosgeles

    anghyfochrog

    ongl sgwâr.

Cyfanswm onglau mewnol unrhyw fath o driongl yw 180° .

Mae dwy fformiwla ar gyfer cyfrifo arwynebedd triongl. Un ohonynt yw:

    \text{Arwynebedd} = \dfrac{1}{2} \times \text{Sail} \times \text{Uchder}

                             = \dfrac{1}{2} \times s \times u

Mae’r sail s yn cynrychioli hyd un o ochrau’r triongl ac mae’r uchder u yn cynrychioli’r pellter o’r sail i’r fertig sydd gyferbyn. Sylwch fod yr uchder yn cael ei fesur ar ongl sgwâr i’r sail.

Y fformiwla arall yw:

    \text{Arwynebedd} = \dfrac{1}{2} \times a \times b \times\sin C

Mae a a b yn cynrychioli hyd dwy o ochrau’r triongl ac mae C yn cynrychioli’r ongl rhwng yr ochrau a a b yn y triongl.

Mae’n bosibl defnyddio sawl dull i benderfynu os yw dau driongl yn gyflun neu’n gyfath.

Os oes gennym driongl ongl sgwâr gallwn ddefnyddio theorem Pythagoras neu ddulliau trigonometreg i ddarganfod hydoedd neu onglau coll.

Mewn triongl nad oes ganddo ongl sgwâr gallwn ddefnyddio’r rheol sin neu’r rheol cosin i ddarganfod hydoedd neu onglau coll.